Y Delyn yng Nghymru

Telynau Cynnar

( Allan o ‘Caniad y Gôg i Feirionydd’ gan Lewis Morris o Fôn – 18fed ganrif)

Y delyn yw offeryn cenedlaethol y Cymry a chyfeirir at Gymru yn aml fel ‘Gwlad y Delyn’.

O’r holl wledydd Celtaidd (Yr Iwerddon a’r Alban yn bennaf) mae i Gymru le unigryw gan mai yma y ceir parhad di-dor y delyn draddodiadol. Mae hi yn rhan o hanes a threftadaeth gerddorol a barddol y genedl ers cyfnod y tywysogion cynnar a chyfreithiau Hywel Dda. Yn symbol o Gymreictod, ceir cyfeiriadau ati mewn chwedlau a storiau gwerin, cywyddau, englynion a hen benillion traddodiadol. 

Nid oes nad angel na dyn

Nad ŵyl pan glywo’i delyn

(Allan o gywydd o’r 15 fed ganrif gan Dafydd ab Edmwnd i’r telynor Siôn Eos a grogwyd gan y Saeson am iddo achosi marwolaeth Sais tra’n amddifyn ei hun.) 

Dyn a garo grwth a thelyn,

Sain cynghanedd cân ac englyn;

A gâr y pethau mwyaf tirion

Sy’n y nef ymhlith angylion.  

Telyn wen yn llawn o danne,

Wnaed yng Nghoed y Fron yn rhywle;

Gobeithio ei bod hi yn un hwylus,

O waith dwylaw Dafydd Morus.

Dafydd fwyn yn dwyn dy delyn,

Gwyn fy myd na chawn dy ganlyn:

Cysgu’r nos o fewn dy freichiau

A dawnsio’r dydd lle cenit tithau.

(Hen benillion)

Ceir cyfeiriad ati fel symbol o genedlaetholdeb a sentiment gwladgarol ym mhennill  olaf yr anthem genedlaethol.

Os treisiodd y gelyn, fy ngwlad dan ei droed,

Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed,

Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,

Na thelyn berseiniol fy ngwlad.

Ers yr Oesoedd Canol cynnar mae gwahanol fathau o delynau wedi eu harfer gan y telynorion Cymreig – telynau bychan unrhes syml, weithiau gyda seinfwrdd o ledr ac wedi eu tannu a thannau rhawn (blew cwnffon ceffyl wed’i blethu), ac yna gyda thannau perfedd defaid (gut). Dyma gyfeiriadau dau fardd o’r cyfnod at y delyn unrhes wedi ei thannu a thannau rhawn:

Pêr, pêr, Isgywair oes cainc, mawr foliant

Mor felus gan ieuainc:

Aml o osgedd melys gainc,

Aur bibau cerdd ar bob cainc.

(Guto’r Glyn, 1450)

Angyles ber rhwng ceraint

A lluniaidd yw, llawn o ddaint,

Nodais do, da yw ei stôr,

Naw ar hugain, neu ragor

A rhain yn ffin er ennyd,

Yn ber iawn o’r rhawn ar hyd.

(Dafydd Benwyn, 1534)

Yn ‘Cywydd i’r Delyn Ledr’ mae’n amlwg nad oedd y bardd enwog Dafydd ap Gwilym (tua 1320 – 1370) ddim yn hoffi’r delyn hon gyda’i thannau o berfedd dafad! 

Nid oedd un tant ffyniant ffydd,

O ddefaid meirw i Ddafydd.

Ni wnaeth clau ddewiniaeth cler

Ddafydd broffwydddiofer,

Un delyn, ddiddan angerdd,

Onid o rawn gyfiawn gerdd.

Mae i Gymru lawysgrif arbennig iawn, sef Llawysgrif Robert ap Huw (tua 1580 – 1665) y telynor o Fôn  a nododd ar gôf a chadw, rhai o’r alawon telyn o’r Oesoedd Canol  a’r dechneg hynafol o’u perfformio. Hon yw’r lawysgrif hynaf o gerddoriaeth i’r delyn drwy’r byd i gyd! 

Math arall o delyn a genid yng Nghymru ganrifoedd yn ôl oedd y delyn ‘wrachiod’. Y ‘gwrachiod’ (neu gwrachod) oedd pegiau bychan o bren neu asgwrn a roddwyd i bwyso ar y tant  gan y telynor ac wrth ei daro creuwyd sŵn mwmian hir a ymestynnai’r sain. 

Ceimion wrachiod cymwys

Yn siarad pob teimlad dwys

(Huw Machno, 1585-1637) 

Cyn hwyred a degawdau cynnar y 19 eg ganrif, roedd y delyn unrhes yn dal i gael ei harfer yn ne Cymru. Roedd ambell un gyda  gwrachiod ym mol yr offeryn ac fe’i cenid  yn bennaf i gyfeilio i’r dawnsio traddodiadol.

Isod ceir ddisgrifiad gan y Parchedig Thomas Price (1787-1848) o’i hen athro telyn David Watkins o Lanfaes, Brycheiniog, yn y flwyddyn 1815.

“As old David Watkins played a good deal for dancing, his harp was not furnished with pegs of the usual make, but the strings were fastened in the sounding board with ‘gwrachod’, or angular pegs of this form, the nose of each being close to the string which it fastened, giving it a jarring sound, which produced a good effect in a dancing tune. But when that was not wanted, the peg turned off the string,, and  then it was no other than a common peg. These ‘gwrachod’ pegs he made of thorn twigs: the thorn being tough and strong…” 

 Ond, mae’n wir dweud mai telyn y gorffennol oedd y delyn unrhes erbyn canol y 19 ganrif, oherwydd fod y delyn deires wedi hen sefydlu ei hun fel prif offeryn traddodiadol y genedl erbyn hynny.