Y Delyn Deires Gymreig

“Ychydig iawn o’r dosbarth o offerynnau cerdd a elwir yn genedlaethol sydd i’w chymharu â’r delyn deir-rhes…”

“Gwaith offeryn cerdd cenedlaethol ydyw canu alawon cenedlaethol y genedl a’r wlad y bydd yr offeryn yn digwydd bod yn eiddo iddi. Dyna waith yr hen delyn deir-rhes ac i hyn y gwnaed hi gan yr hen Gymry telyngarol gynt…”

“Ie, mi goeliaf hefyd na ellid colled genedlaethol drymach na cholli hon, ond colli’r iaith; ac y mae ein telyn Gymreig ar lawer ystyr yn debyg i’r iaith, ac yn dwyn cysylltiadau agosaf â hanes ein gwlad”.

(Robert Griffith – Llyfr Cerdd Dannau-1913)

Fel mae’r enw yn awgrymu mae gan y delyn hon dair rhes o dannau, yn wahanol i delyn Geltaidd neu delyn bedal fodern sydd ag un rhes. Mae dwy rhes allanol y delyn deires wedi eu cyweirio i’r raddfa ddiatonig, a’r rhes ganol i’r hapnodau, gan wneud yr offeryn yn hollol gromatig. Nid oes pedalau na pheirianwaith mecanyddol yn agos iddi. Gellir cynhyrchu seiniau arbennig trwy ganu’r ddwy res allanol mewn olyniant cyflym, sŵn na ellir ei efelychu ar unrhyw delyn unrhes.

“Mae’r alaw Pwt ar y Bys yn un dlos iawn, pan genir gyda deulais y delyn Gymreig, ac yn hysbys ddigon i delynwyr yr oes o’r blaen”

(Robert Griffith – Llyfr Cerdd Dannau-1913)

Mae’n debyg mai syniad yr Eidalwyr oedd llunio telyn â thair rhes o dannau er mwyn ymdopi â’r math newydd o gerddoriaeth a ddatblygodd yn yr unfed ganrif a’r bymtheg. Canwyd y deires Eidalaidd am y tro cyntaf o gympas y flwyddyn 1600. Offeryn ben isel ydoedd gyda thua saith deg pump o dannau.

Telyn Deires Eidalaidd gan Tim Hampson

Ymhen amser clywid yr offeryn newydd yn llysoedd Ffrainc a Lloegr. Yn Llundain ar y pryd roedd telynorion ac ambell saer telyn o Gymru ac o fewn dipyn i beth mabwysiadwyd y delyn hon gan y telynorion Cymreig gan ei haddasu gogyfer y dull Cymreig o ganu telyn. Lluniwyd eu telynau teires i orffwys ar yr ysgwydd chwith, yn unol a’r drefn Gymreig. Ar yr ysgwydd dde y cenid telyn ar y cyfandir a dyma’r ffordd ‘glasurol’ hyd heddiw wrth gwrs. Datblygodd y deires Gymreig i fod yn offeryn ben uchel ac iddi yn agos tua chant o dannau.

 Diflannodd y deires o lwyfannau’r cyfandir, ond yma yng Nghymru tyfodd yn draddodiad ynddo’i hun ac erbyn canol y 18 fed ganrif adwaenid hi fel ‘The Welsh Harp’ -Y Delyn Gymreig. Roedd yn boblogaidd ymysg y bonedd yn eu plasdai crand ac wrth gwrs ymysg y werin fel offeryn tŷ tafarn, ffair, gŵyl a phriodas ac i gyfeilio i’r dawnsio a’r canu traddodiadol gan ennill enw drwg iddi ei hun gyda’r Methodistiaid sych dduwiol y cyfnod!

Yn ystod y 18fed a’r 19 eg ganrif adeiladwyd nifer fawr o delynau teires yng Nghymru. Dau o’r seiri telyn enwocaf oedd John Richards (1711 – 1789) o Lanrwst a Bassett Jones (1809 – 1869) o Gaerdydd. 

Erbyn diwedd oes y frenhines Fictoria roedd y delyn bedal ‘ffasiynol’ (neu’r delyn ‘Seisnig’ fel y gelwid hi gan rai bryd hynny) wedi disodli’r hen delyn deires Gymreig i bob pwrpas ac erbyn tua 1900 ychydig iawn o delynorion a thelynoresau Cymru allai ganu’r deires, a llai fyth ei llunio.  Fe chwaraeodd yr Eisteddfod Genedlaethol ran fawr yn hyn o beth ac hefyd wrth gwrs dymuniad nifer o’r Cymry i ‘symyd ymlaen’ gyda’r amseroedd. Un a fu’n brwydro’n galed dros barhad y delyn deires yn ystod y 19eg ganrif oedd Augusta Hall ‘Arglwyddes Llanofer’ (1802-1896) ac un a fu’n bennaf gyfrifol yn yr 20fed ganrif am oroesiad y delyn arbennig hon, oedd yr enwog Nansi Richards ‘Telynores Maldwyn’ (1888-1979) a lwyddodd i gynnal y traddodiad di-dor, a phasio’r grefft o’i chanu ymlaen i’w disgyblion.